Yr hyn rydym yn ei wneud
Uniondeb a Diogelwch Bwyd
Prif nod deddfwriaeth bwyd yn y DU yw “Diogelu iechyd pobl a budd defnyddwyr o ran bwyd. Mae’n berthnasol i bob cam cynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd a phorthiant gyda rhai eithriadau. Rhaid i fusnesau bwyd gydymffurfio â chyfraith diogelwch bwyd a phorthiant.” (cyfraith yr UE a ddargedwir)
Mae gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd yn eich awdurdod lleol yn gyfrifol am:
- Cofrestru / cymeradwyo busnesau bwyd
- Asesu a monitro cydymffurfiaeth mewn busnesau bwyd
- Ymchwilio i gwynion am fwyd / eiddo bwyd
- Darparu addysgu a chyngor ond hefyd cymryd camau gorfodi pan fo angen
- Cymryd samplau bwyd ar gyfer ansawdd / diogelwch microbiolegol
- Rhoi’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd statudol ar waith yng Nghymru
- Ymchwilio i achosion o salwch sy’n cael ei gario mewn bwyd a dŵr
- Ymateb i rybuddion bwyd / digwyddiadau sy’n gysylltiedig â bwyd
- Rhoi cyngor a chymorth i gwsmeriaid
Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am archwilio eiddo bwyd yn eu hardal yn rheolaidd ac am orfodi deddfau bwyd perthnasol yn barhaus. Ymhlith y dyletswyddau mae ymchwilio i gwynion gan y cyhoedd am fwyd ac eiddo bwyd; cynnal profion samplo arolygu bwyd; a rhoi cyngor ar faterion diogelwch bwyd i’r cyhoedd a’r diwydiant bwyd.