Yr hyn rydym yn ei wneud
Trwyddedu
Mae gan Wasanaethau Trwyddedu Awdurdod Lleol rôl hanfodol mewn ystod eang o weithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau rydym yn dod ar eu traws mewn bywyd bob dydd. Mae’r gwasanaethau hyn yn gyfrifol am gyhoeddi, monitro ac adolygu trwyddedau, awdurdodiadau a chofrestriadau amrywiol gan sicrhau bod diogelwch y cyhoedd, cydymffurfiaeth gyfreithiol a safonau cymunedol yn cael eu cynnal.
Gall trwyddedu olygu ymweld ag eiddo trwyddedig penodol a’u harchwilio, yn cynnwys:
- Eiddo sydd â thrwydded ar gyfer alcohol ac adloniant rheoledig
- Eiddo gamblo a loterïau
- Casgliadau elusennol (trwydded i fynd o dŷ i dŷ neu drwydded casgliadau stryd)
- Lleoliadau adloniant rhywiol
- Tacsis a cherbydau hurio preifat
- Lles anifeiliaid yn cynnwys sefydliadau bridio a lletya cŵn
- Delwyr metel sgrap (safleoedd a chasglwyr)
- Petrolewm a ffrwydron
- Trwyddedau Gweithdrefnau Arbennig ar gyfer aciwbigo, tatŵio, tyllu rhannau o’r corff ac electrolysis
- Masnachu ar y Sul
- Safleoedd carafanau a gwersylla
Mae Panel Arbenigol Trwyddedu Cymru wedi datblygu sawl Pecyn Offer i helpu awdurdodau lleol i osod eu ffioedd trwyddedu dewisol o ran gyrwyr tacsi, cwmnïau llogi preifat, cartrefi symudol, masnachu ar y stryd ac ati