Yr hyn rydym yn ei wneud
Rheoli Cŵn a Phlâu
Mae gan wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd yng Nghymru ran hanfodol mewn amddiffyn cymunedau drwy ystod o swyddogaethau iechyd cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys ymdrin â chŵn sy’n crwydro, yn cynnwys eu casglu, eu lletya a gwneud ymdrechion rhesymol i ddod o hyd i’r perchnogion fel sy’n ofynnol dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Mae awdurdodau lleol hefyd yn cydweithio gyda phartneriaid megis yr Heddlu i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol o gŵn mewn cymunedau lleol.
Hefyd, mae llawer o awdurdodau lleol yn cynnig gwasanaethau rheoli plâu i eiddo preswyl a masnachol, yn targedu plâu fel llygod mawr, llygod, chwilod duon a llau gwely. Er y codir tâl am rai o’r gwasanaethau hyn efallai, maen nhw’n hanfodol i reoli plâu sy’n peri risg i iechyd pobl, yr amgylchedd a’r economi. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad yw pob awdurdod lleol yn darparu gwasanaeth trin rheoli pla. Bydd pob awdurdod yn cymryd camau gorfodi pan fydd perygl i iechyd y cyhoedd oherwydd plâu fel llygod mawr neu lygod.