Yr hyn rydym yn ei wneud
Iechyd a Diogelwch
Gall diffyg rheoleiddio, cyngor a chefnogaeth briodol i fusnesau lleol gynyddu’r risg i iechyd yn gysylltiedig â materion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch (yn cynnwys salwch difrifol a marwolaeth) i aelodau’r cyhoedd a gweithwyr.
Mae gorfodi iechyd a diogelwch yn cael ei rannu rhwng awdurdodau lleol a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac mae’r awdurdod gorfodi perthnasol yn seiliedig ar natur prif weithgarwch gwaith y sector busnes penodol. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol yn bennaf am y sectorau manwerthu, gwasanaethau cwsmeriaid, adloniant a warws/cadwyn gyflenwi ynghyd â thua dau draean o’r holl eiddo busnes. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn tueddu i fod yn gyfrifol am eiddo mwy megis ffatrïoedd. Yn ymarferol, mae’r ddau reoleiddiwr yn gweithio mewn partneriaeth gan rannu’r prif bwyslais o helpu’r rhai sydd â dyletswydd i atal damweiniau a salwch yn y gwaith.
Ystadegau
Yn 1974, cafodd 651 o weithwyr eu lladd yn y gwaith yn y DU.
Mae ystadegau blynyddol yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dangos bod nifer yr anafiadau angheuol yn ymwneud â gwaith ym Mhrydain wedi gostwng yn sylweddol erbyn heddiw.
Mae sicrhau bod iechyd a diogelwch yn cael ei reoli’n effeithiol yn arwain at fanteision uniongyrchol i’r gymuned leol, drwy leihau marwolaethau, anafiadau a salwch yn ymwneud â gwaith, lleihau’r angen am iechyd cyhoeddus lleol a chefnogaeth i’r rhai sy’n gwella o anafiadau a salwch a lleihau cyfraddau methiant busnesau sy’n cael eu hachosi gan ddigwyddiadau a niwed i staff, neu golli enw da.
Mae awdurdodau lleol yn cynnal archwiliadau iechyd a diogelwch ac yn ymchwilio i gwynion am weithleoedd, gan dargedu ymyraethau ar y gweithgareddau hynny sy’n arwain at y risgiau mwyaf difrifol neu ble nad yw’r peryglon yn cael eu rheoli cystal.
Gwneir y gwaith gan wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd fel rhan o gyfrifoldebau’r Cyngor fel corff rheoleiddio. Nid yw fel arfer yn cynnwys cyfrifoldeb y Cyngor fel cyflogwr, er y byddwn yn cefnogi ein cydweithwyr corfforaethol gyda chyngor.
Mae gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd yn gyfrifol am:
- Archwiliadau iechyd a diogelwch mewn gweithleoedd
- Ymchwilio i gwynion
- Ymchwilio i ddamweiniau, clefydau neu ddigwyddiadau peryglus yn y gwaith (sef hysbysiadau RIDDOR a chwynion (arferion / eiddo)
- Cyngor i gyflogwyr
- Cynllunio ymyriadau, arolygon a mentrau gorfodi arbennig e.e. targedu busnesau sy’n perfformio’n wael, diogelwch trydanol mewn ysbytai, Dyfeisiau Adloniant Aer, diogelwch nwy mewn ceginau masnachol, diogelwch warysau
- Cefnogi Grwpiau Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau
- Arweiniad mewn ymateb i geisiadau cynllunio a rheoli adeiladu
- Archwilio ac ardystio safleoedd petrolewm
- Mae meysydd eraill yn cynnwys Diogelwch Meysydd Chwaraeon, tyrrau oeri a thrwyddedu ac archwilio storfeydd ffrwydryddion