Yr hyn rydym yn ei wneud
Yn Iechyd yr Amgylchedd Cymru, rydym yn gweithio i gadw pobl a chymunedau ym mhob cwr o Gymru yn ddiogel ac yn iach.
Boed hynny’n sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta, mynd i’r afael a sŵn a llygredd, neu’n helpu i wella amodau tai, mae ein gwasanaethau yma i amddiffyn eich iechyd a lles bob dydd.
Gweler y gwasanaethau a ddarparwn a sut maent yn eich cefnogi.
Astudiaethau Achos: Iechyd yr Amgylchedd
Uniondeb a Diogelwch Bwyd
Mae tua chan miliwn o bobl yn dioddef o glefydau a gludir gan fwyd bob blwyddyn, gan gostio £1 biliwn i economi’r DU (ffynhonnell: Swyddfa Archwilio Genedlaethol). Mae gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd mewn awdurdodau lleol yn gweithio’n galed i sicrhau bod y bwyd a fwytewn yn ddiogel ac yr hyn a nodir.
Gall gwenwyn bwyd achosi salwch difrifol ac, mewn rhai achosion, hyd yn oed marwolaeth. Rhan fawr or gwaith yw sicrhau bod bwyd yn cael ei drin, ei baratoi, ei storio a’i weini’n ddiogel drwy roi cyngor i fusnesau bwyd, ysgolion, ysbytai a defnyddwyr, yn ogystal â gorfodi cyfraith fwyd. Gall hyn fod yn unrhyw le o’r caffi cornel i’r gwesty pum seren gorau.
Mae Gweithwyr Proffesiynol Iechyd yr Amgylchedd hefyd yn gweithio i ddiogelu defnyddwyr sydd ag alergeddau bwyd, gan ddarparu cyngor i fusnesau a sicrhau bod y rheolau labelu alergenau yn cael eu dilyn.
Ansawdd Aer
Yng Nghymru, mae 44 o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (AQMAs) wedi’u datgan gan awdurdodau lleol, ac mae 43 ohonynt wedi’u datgan am eu bod yn rhagori ar gyfyngiadau cyfreithiol yr UE ar gyfer nitrogen deuocsid sy’n gysylltiedig â thanwydd ceir, ac un oherwydd gronynnau o ffynhonnell ddiwydiannol (ffynhonnell: DEFRA).
Mae gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd yn ymwneud â monitro ansawdd aer ac yn ceisio gwella ansawdd aer lleol. Lle mae crynodiadau o lygredd yn rhagori ar y safonau rheoleiddiol, bydd Iechyd yr Amgylchedd yn datgan ardal rheoli ansawdd aer ac yn cynhyrchu cynlluniau gweithredu i unioni’r broblem. Gan fod cerbydau modur yn aml yn achosi lefelau uchel o’r llygryddion hyn, mae llawer o weithwyr proffesiynol Iechyd yr Amgylchedd yn gweithio’n agos gyda chynllunwyr traffig.
Iechyd a Diogelwch
Ddaru 1.8 miliwn o weithwyr dioddef o salwch sy’n gysylltiedig â gwaith (newydd neu hirsefydlog) yn 2022/23 (Cyf.: Ystadegau – Salwch sy’n gysylltiedig â gwaith a chlefyd galwedigaethol). Gall diffyg rheoleiddio priodol, ynglwm a diffyg cyngor a chymorth i fusnesau lleol gynyddu’r risgiau i iechyd sy’n gysylltiedig â materion iechyd a diogelwch (gan gynnwys salwch difrifol a marwolaeth) i aelodau o’r cyhoedd ac i weithwyr.
Mae awdurdodau lleol yn bennaf yn delio a sectorau manwerthu, gwasanaethau i ddefnyddwyr, adloniant a warysau/cadwyn gyflenwi, ac maent yn gyfrifol am tua dwy ran o dair o’r holl safleoedd busnes. Mae awdurdodau lleol yn cynnal arolygiadau iechyd a diogelwch ac yn ymchwilio i gwynion am leoedd gwaith, gan dargedu ymyriadau at y gweithgareddau hynny sy’n peri’r risgiau mwyaf difrifol neu lle mae’r peryglon wedi’u rheoli waethaf.
Tai
O ran effeithiau ar iechyd meddwl, mae byw mewn tai annheilwng, oer neu orlawn, a thai anfforddiadwy wedi’i gysylltu â chynnydd mewn straen, llai o deimlad o allu rheoli a dylanwadu ar fywyd rhywun, ynghyd ac iselder a phryder. Mae plant sy’n byw mewn cartrefi gorlawn yn fwy tebygol o fod yn bryderus, dan straen ac yn isel eu hysbryd, yn meddu ar iechyd gorfforol gwaeth, yn perfformio’n waeth yn yr ysgol ac yn wynebu risg uwch o broblemau ymddygiad o’u cymharu â phlant mewn cartrefi nad ydynt yn orlawn.
Cyffredinol
Yn ogystal â hyn, mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn gweithio’n agos gyda phartneriaid allweddol i leddfu’r pwysau ar wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, gan helpu i ryddhau amser swyddogion ar gyfer gwaith blaenoriaeth.
Er enghraifft, mae Cyngor Sir Benfro wedi awdurdodi ei swyddogion yn ddiweddar i gyhoeddi Rhybuddion Diogelu’r Gymuned a Hysbysiadau Diogelu’r Gymuned, o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, i Ddeiliaid Tai Cymdeithasol Cofrestredig sy’n gweithredu o fewn ei ardal.