Yr hyn rydym yn ei wneud
Tai
Mae’r cysylltiad rhwng iechyd a thai wedi cael ei gydnabod ers tro byd. Yn 1900, roedd llawer o deuluoedd tlotaf Prydain yn dal i fyw mewn tai cefn wrth gefn gwael oedd yn eiddo i landlordiaid preifat. Erbyn y flwyddyn 2000, roedd deddfwriaeth wedi’i chyflwyno i wahardd adeiladu tai anniogel, cyflwyno rhaglenni adeiladu ar gyfer tai Cyngor a thai cymdeithasol, rheoli gweithgareddau landlordiaeth Rachman a rhoi rhaglenni adnewyddu ar waith oedd yn cynnwys clirio a dymchwel, rhaglenni cyfalaf ardaloedd adnewyddu ac ailwampio a grantiau bach wedi’u targedu fwy e.e. effeithlonrwydd ynni.
Cydnabyddir erbyn hyn bod ymdrin ag addasrwydd tai yn effeithio ar ystod o ffactorau amddifadedd megis tlodi, cyrhaeddiad addysgol, cyflogaeth, iechyd a throsedd. Dangosir yr effaith y gallwn ei chael yn yr enghreifftiau isod:
- Bydd archwiliadau eiddo ac ymweliadau cartref yn amlygu anghenion cefnogi eraill megis cymorth i ddatrys problemau â phlâu e.e. llygod mawr/llygod neu sut i ymdopi â rheoli eu bywydau’n fwy cyffredinol e.e. celcio. Mae’r rhain yn achosion anodd sydd angen eu rheoli’n sensitif a chydweithio â gwasanaethau cymdeithasol eraill. Pan gânt eu datrys, mae’r canlyniad yn werth yr ymdrech.
- Rydym hefyd yn cefnogi pobl i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi drwy ddyfarnu grantiau gwaith bach a Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl mwy. Mae’r math hwn o waith yn osgoi i bobl orfod cael eu derbyn i’r ysbyty ac yn helpu iddynt gael eu rhyddhau’n gyflymach.
Mae gan awdurdodau lleol ystod o bwerau a dulliau
I helpu i roi defnydd newydd i eiddo gwag a gwella cyflwr tai yng Nghymru, mae gan Awdurdodau Lleol bwerau sy’n cynnwys:
- Cynllun cofrestru a thrwyddedu i landlordiaid preifat ac asiantaethau gosod tai – cynllun sy’n cael ei gynnal dan yr enw brand Rhentu Doeth Cymru
- Cynlluniau trwyddedu awdurdodau lleol i reoli amodau mewn tai amlfeddiannaeth
- Trwyddedu cartrefi symudol (Cartrefi Parc)
- Mesurau gorfodi megis hysbysiadau gwella, rhybuddion gwahardd, erlyniadau am droseddau – cyflwr eiddo, aflonyddu anghyfreithlon a throi pobl allan, methu â bodloni safonau perfformiad ynni
- Gallu cymryd rheolaeth o eiddo, neu orfodi ei werthu, pan fo’r rheolwr yn methu
- Darparu cymorth ariannol, drwy grantiau bychan a benthyciadau
- Cefnogaeth i addasu cartrefi i fodloni anghenion anabledd
- Darparu rhaglen Cynllun Prydlesu Cymru i annog rhoi defnydd newydd i eiddo gwag
- Cynnig cyngor arbenigol
Cyn defnyddio unrhyw un o’r pwerau hyn, bydd gweithwyr proffesiynol Iechyd yr Amgylchedd yn ymweld â’r tŷ, yn ei archwilio ac yn cymharu’r darganfyddiadau â’r safon ddisgwyliedig, ac yna’n penderfynu ar y ffordd orau o ddatrys y mater.
Cydweithio gydag eraill:
Bydd eich gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd lleol yn dylanwadu ar ddarpariaeth tai da drwy bartneriaethau a chydweithio gyda chynlluniau megis Cynllun Prydlesu Llywodraeth Cymru i wneud y mwyaf o dai presennol a gwasanaethau Gofal a Thrwsio, Gwasanaethau Iechyd a Therapi Galwedigaethol (ysbytai ac awdurdodau lleol) i hyrwyddo byw’n annibynnol i bawb.
Mae Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd bob amser yn barod i roi cyngor i helpu perchnogion tai, landlordiaid a thenantiaid.