Skip to content

Yr hyn rydym yn ei wneud

Rheoli Llygredd

Gall yr aer rydym yn ei anadlu, y dŵr rydym yn ei yfed ac ymolchi ynddo, y tir rydym yn adeiladu arno a’i amaethu, i gyd effeithio ar ein hiechyd. Un o rolau allweddol Iechyd yr Amgylchedd yw ein gwarchod ni a’n hamgylchedd rhag niwed.

Mae awdurdodau lleol yn darparu ystod arbenigol o wasanaethau monitro, ymchwilio a gorfodi yn ymdrin â meysydd technegol amrywiol. Maen nhw’n gyfrifol am fonitro llygredd aer, dŵr, tir a sŵn.

Dyma rai o’r enghreifftiau amrywiol ble mae Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd awdurdodau lleol yn ceisio gwella a gwarchod iechyd:

  • Monitro a cheisio gwella ansawdd aer lleol
  • Rheoleiddio gwastraff (e.e. tipio anghyfreithlon)
  • Tir halogedig (e.e. dynodi, rheoli, adfer o bosibl)
  • Monitro nwy tirlenwi mewn safleoedd tirlenwi’r cyngor sydd wedi cau, fel mater o drefn
  • Rheoleiddio prosesau diwydiannol drwy weithredu’r drefn Drwyddedu Amgylcheddol
  • Rhoi cyngor a chefnogaeth dechnegol ar gyfer prosesu rheoliadau adeiladu, adfywio, cynllunio a rheoli datblygiadau lleol e.e. asesu halogiad safleoedd a gynigir ar gyfer datblygiadau newydd
  • Rheoleiddio cyflenwad dŵr preifat
  • Cymryd samplau o ddŵr hamdden ac ymolchi
  • Cydlynu ymatebion i ddigwyddiadau amgylcheddol o drychinebau naturiol a rhai a achosir gan bobl
  • Ymchwilio i bryderon yn ymwneud â ffynonellau diwydiannol a domestig, megis sŵn o dafarndai a chwynion am arogleuon o leoliadau bwyd i fynd, cwynion am sŵn gan gymdogion, ymchwilio i wrychoedd uchel, cwynion am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Ymchwiliadau i eiddo budr a ferminog
  • Darparu data a gwybodaeth amgylcheddol

Mae angen arbenigedd gwyddonol a sgiliau dadansoddi i asesu data, rheoli peryglon a lleihau’r risg i’r cyhoedd.