Gweithio gyda ni
Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol
Mae cefnogi datblygiad gweithwyr proffesiynol Iechyd yr Amgylchedd yn ganolog i gynnal safonau uchel a gwasanaethau iechyd cyhoeddus effeithiol.
Mae ein Panel Arbenigol Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol yn gweithio i sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol Iechyd yr Amgylchedd fynediad at gyfleoedd dysgu perthnasol drwy gydol eu gyrfaoedd. Mae hyn yn cynnwys:
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- Creu cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio, mentora a chefnogi
- Hyfforddiant a mentora strwythuredig
Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o Weithwyr Proffesiynol Iechyd yr Amgylchedd. Drwy weithio gyda phartneriaid megis Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd a Gyrfa Cymru, ein nod yw codi ymwybyddiaeth o’r proffesiwn a hyrwyddo llwybrau clir, wedi’u cefnogi i rolau Iechyd yr Amgylchedd.
Os ydych yn angerddol am wyddoniaeth, y gyfraith, polisi neu iechyd cyhoeddus, mae gyrfa mewn Iechyd yr Amgylchedd yn cynnig amrywiaeth, her a phwrpas, lle mae pob diwrnod yn wahanol.
- Atal clefydau a hyrwyddo lles.
- Sicrhau diogelwch drwy reoleiddio arbenigol.
- Darparu arweiniad yn seiliedig ar dystiolaeth.
Ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth?
Archwiliwch eich llwybr i Iechyd yr Amgylchedd a darganfod sut y gallwch helpu i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol drwy ymweld â gwefan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.