Skip to content

Gweithio gyda ni

Mae Iechyd yr Amgylchedd yn broffesiwn deinamig ac amlddisgyblaethol sy’n chwarae rhan hanfodol mewn diogelu iechyd y cyhoedd ac amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol drwy wella’r amgylchedd y mae pobl yn byw a gweithio ynddo.

Wrth wraidd yr ymdrechion i ymdrin â’r penderfynyddion iechyd ehangach, mae gweithwyr proffesiynol Iechyd yr Amgylchedd yn gweithio mewn ystod o ddisgyblaethau amrywiol drwy gyfrannu at:

  • Leihau anghydraddoldebau iechyd
  • Atal clefydau a salwch

Mae Iechyd yr Amgylchedd Cymru wedi ymrwymo i gryfhau cydweithio ar draws y dirwedd iechyd cyhoeddus. Rydym yn annog mwy o ymgysylltu gan fudd-ddeiliaid yn cynnwys cynghorwyr, aelodau’r Senedd, gwasanaeth iechyd cyhoeddus, gwasanaethau tai a chynllunio, darparwyr addysg, sefydliadau trydydd sector ac arweinwyr cymunedol. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd denu a meithrin y genhedlaeth nesaf o Weithiwr Proffesiynol Iechyd yr Amgylchedd.

Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol

Cefnogi gyrfaoedd mewn Iechyd yr Amgylchedd drwy hyfforddi, datblygu a llwybrau clir i’r proffesiwn.

Rhagor o wybodaeth

Ymgysylltu â Budd-ddeiliaid

Gweithio gyda phartneriaid i gryfhau cydweithio a gwella canlyniadau iechyd cyhoeddus.

Rhagor o wybodaeth

Adeiladu ar gyfer y Dyfodol

Rhagor o wybodaeth