Amdanom ni
Iechyd yr Amgylchedd yw’r gangen o iechyd cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar y perthnasoedd rhwng pobl a’u hamgylchedd; hyrwyddo iechyd a lles pobl; a meithrin cymunedau iach a diogel.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi
Bod iechyd yr amgylchedd yn ymdrin â’r holl ffactorau ffisegol, cemegol a biolegol sy’n allanol i unigolyn, a’r holl ffactorau cysylltiedig sy’n effeithio ar ymddygiad. Mae’n ymgorffori asesu a rheoli’r ffactorau amgylcheddol hynny sy’n gallu effeithio ar iechyd. Ei nod yw atal clefydau a chreu amgylcheddau sy’n cefnogi iechyd.
Mae Iechyd yr Amgylchedd Cymru yn cynnwys ystod o banelau arbenigol sy’n canolbwyntio ar feysydd allweddol gwarchod y cyhoedd, ac ochr yn ochr â’r rheiny mae pwyslais hefyd ar hyfforddiant, gorfodi a rheoli perfformiad. Rydym yn cymryd rhan weithredol mewn nifer o fforymau, grwpiau ymgynghorol a phwyllgorau llywio, gan sicrhau cynrychiolaeth eang ar draws y sector. Drwy gydweithio a rhannu gwybodaeth, rydym yn helpu i lunio polisi cenedlaethol ac ysgogi gwelliannau mewn arferion iechyd yr amgylchedd ar hyd a lled Cymru.
Yr hyn rydym yn ei wneud
Mae nodau Iechyd yr Amgylchedd Cymru yn cyd-fynd â rhai Cyfarwyddwyr Gwarchod y Cyhoedd Cymru, sef ‘helpu i gyflawni Cymru fwy diogel, glân, teg ac iach’.
DATGANIAD CENHADAETH
Gwarchod lles personol, amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol trwy bolisi, rheoliadau ac addysg. Trwy’r dulliau hyn, creu amgylchedd fyw a gwaith diogel ar gyfer y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Diben Iechyd yr Amgylchedd Cymru yw:
-
Hyrwyddo gweithio a chydlynu rhwng awdurdodau i sicrhau cysondeb a chyflawni gwelliant parhaus.
-
Ymateb a chyfrannu at ddatblygu’r rhaglen gwarchod y cyhoedd a’r materion sy’n dod yn amlwg gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a CLlLC.
-
Dylanwadu ar bolisïau ac arferion o ran diogelu a gwella iechyd a lles cymunedau lleol yng Nghymru.
-
Cefnogi datblygiad personol a phroffesiynol gweithwyr proffesiynol Iechyd yr Amgylchedd.
-
Gweithio mewn partneriaeth i annog gorfodi a darpariaeth gwasanaeth teg a chyson.
-
Cydweithio gydag eraill i helpu i ddarparu Cymru fwy diogel, glân, teg ac iach.
Enghreifftiau o’r adegau y byddwn yn cyfranogi:
- Gorfodi mannau di-fwg
- Rheoleiddio gwelyau haul
- Trwyddedau Gweithdrefnau Arbennig ar gyfer aciwbigo, tyllu rhannau o’r corff, electrolysis, tatŵio
- Angladdau a datgladdedigaethau iechyd y cyhoedd
- Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol iechyd eraill ar raglenni i wella iechyd a lles – e.e. Fframwaith Diogelu Iechyd Llywodraeth Cymru.
- Mynd i’r afael â thlodi tanwydd e.e. cyllid Ecoflex ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni mewn cartref