Skip to content

Croeso i
Iechyd yr Amgylchedd Cymru

Iechyd yr Amgylchedd Cymru yw’r llais a’r corff arweiniol unedig i swyddogion sy’n darparu gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu yn holl awdurdodau lleol Cymru.

Drwy gydlyniant strategol, cefnogaeth broffesiynol ac eiriolaeth, rydym yn hyrwyddo cysondeb, gwelededd a chydweithio ar draws y sector. Mae ein gwaith yn atgyfnerthu rôl Iechyd yr Amgylchedd yn y system iechyd cyhoeddus ehangach ac yn cefnogi darpariaeth gwasanaethau o safon uchel yn lleol.

Ein nod yw hyrwyddo ac amddiffyn iechyd, diogelwch a lles y cyhoedd drwy ddarparu cyngor, rheoleiddio a gorfodi yn unol â pholisi cenedlaethol a lleol.
Mae gan swyddogion Iechyd yr Amgylchedd rôl flaenllaw mewn iechyd cyhoeddus, gan weithio nid yn unig i ymateb i risgiau brys ond hefyd i ymdrin â’r penderfynyddion iechyd ehangach sy’n siapio ein bywydau bob dydd. O dai ac ansawdd aer i ddiogelwch bwyd a thrwyddedu, bwriad pob maes gwasanaeth yw atal niwed a hyrwyddo lles.

Sail ein gwaith yw atal – ymyrryd yn gynnar, rheoleiddio’n effeithiol a chreu amgylcheddau iachach sy’n cefnogi canlyniadau iechyd cyhoeddus hirdymor gwell.

Town by river
Two people laughing in a park with lots of trees

Trosolwg o Awdurdodau Lleol

Mae gan awdurdodau lleol rôl ganolog yn y gwaith o lywodraethu Cymru gan eu bod yn darparu’r arweinyddiaeth a’r gwasanaethau lleol angenrheidiol i’w cymunedau.

Mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol ddarparu rhai gwasanaethau statudol. Mae’r rhain yn cael eu nodi mewn deddfwriaeth ac yn cynnwys gwasanaethau fel gofal cymdeithasol, iechyd yr amgylchedd a chynllunio. Gallant ddewis darparu gwasanaethau eraill hefyd megis canolfannau hamdden a chelf.

Mae Awdurdodau Lleol yn gweithio gydag ystod o bartneriaid a chyrff lleol a chenedlaethol i ddarparu gwasanaethau lleol, darparu cynrychiolaeth ddemocrataidd a darparu arweinyddiaeth strategol.

Mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn darparu dros 700 o wasanaethau lleol, yn cynnwys:

 

  • Addysg
  • Tai
  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Priffyrdd a Chludiant
  • Rheoli Gwastraff
  • Gwasanaethau Hamdden a Diwylliant
  • Iechyd yr Amgylchedd
  • Cynllunio
  • Datblygu Economaidd
  • Cynllunio Rhag Argyfwng ac ati